Ysgol Talhaiarn

“Tyfu a dysgu gyda’n gilydd”

Sut allwn ni eich helpu chi?

Neges gan y Pennaeth

Annwyl Rhieni a Gofalwyr,

Croeso i Ysgol Talhaiarn. Diolch am ymweld â’n gwefan.

Lleolir Ysgol Talhaiarn yng nghefn gwlad prydferth 5 milltir o Abergele. Rydym yn ysgol fach gyda chymhareb staff i ddisgyblion ardderchog. Mae hyn yn ein galluogi i ddeall a datblygu pob plentyn fel unigolyn.

Rydym wedi ein lleoli mewn cymuned wledig a gallwn gerdded i lawr i galon y pentref. Yn ffodus, rydyn ni ychydig funudau ar droed o’r afon hyfryd Elwy.

Mae pob dosbarth yn ymgorffori teithiau cerdded yn ein hamgylchedd lleol fel rhan hanfodol o’n cwricwlwm. Rydym am allu rhoi cyfleoedd a phrofiadau i’n disgyblion y tu hwnt i’w disgwyliadau.

Rydym am helpu ein disgyblion i sylweddoli bod byd o gyfleoedd ar gael iddynt.

Peidiwch ag oedi i gysylltu â ni os hoffech ddod i edrych o gwmpas yr ysgol neu gael sgwrs.

Diolch yn fawr

Mrs Llinos Gwilym Mével

Lleoliad a Chyfeiriad